Iaith
Mae’r iaith rydyn ni’n dewis ei defnyddio wrth siarad am iechyd meddwl, salwch meddwl, hunanladdiad a hunan-niwed yn gallu ennyn nifer o ymatebion mewn pobl eraill, yn enwedig y rhai yr effeithir arnynt yn uniongyrchol ac mae angen cymryd gofal i osgoi tramgwyddo, beirniadu, achosi cynnwrf, gor-ddweud neu barhau â stigma.
Mae nifer o sefydliadau yn y DU a thu hwnt yn darparu canllawiau ar ddefnyddio iaith mewn cysylltiad â hunanladdiad:
- Samaritans Samaritans’ Media Guidelines
- Centre for Addiction and Mental Health, Canada ‘Words Matter’ Print (camh.ca)
- Everymind, Australia Language and suicide | Everymind
- Centre for suicide prevention, California Suicide and Language – Centre for Suicide Prevention (suicideinfo.ca)
- The Mental Elf Service Language matters: how should we talk about suicide? (nationalelfservice.net)
Dyma’r prif bwyntiau i’w cadw mewn cof wrth siarad am hunanladdiad:
Dywedwch | Yn hytrach na | Oherwydd |
---|---|---|
‘wedi marw o hunanladdiad’ neu ‘wedi dod â’u bywyd i ben’ | ‘cyflawni’ neu ‘cyflawni hunanladdiad’ | I osgoi’r cysylltiad rhwng hunanladdiad a ‘throsedd’. Dydy hunanladdiad ddim yn drosedd yn y DU ers 1961 |
‘wedi lladd ei hun’ neu ‘wedi marw o hunanladdiad’ | ‘hunanladdiad llwyddiannus’ | I osgoi cyflwyno hunanladdiad fel canlyniad a ddymunir |
‘heb fod yn angheuol’ neu ‘wedi ceisio lladd ei hun’ | ‘hunanladdiad aflwyddiannus’ | I osgoi cyflwyno hunanladdiad fel canlyniad a ddymunir neu hudoli ymgais hunanladdiad |
‘cyfraddau hunanladdiad pryderus’ | ‘epidemig hunanladdiadau’ | I osgoi achosi cynnwrf a gorliwio’r risgiau |
Nid dim ond i osgoi termau difrïol y mae’n bwysig ein bod yn dewis ein geiriau’n ofalus. Mae’r iaith rydyn ni’n ei defnyddio yn gallu cael effaith gadarnhaol hefyd, sy’n golygu bod dewis y geiriau iawn yr un mor bwysig ag osgoi’r rhai anghywir. Fe ddylech chi osgoi unrhyw beth sydd:
- yn atgyfnerthu stereoteipiau, rhagfarn neu wahaniaethu yn erbyn pobl â salwch meddwl neu feddyliau hunanladdol
- yn awgrymu bod salwch meddwl yn gwneud pobl yn fwy creadigol, bregus neu dreisgar
- yn diffinio pobl neu’n cyfeirio atynt yn ôl eu diagnosis
Rydyn ni’n gwybod na fydd siarad â rhywun am hunanladdiad yn achosi na’n cynyddu meddyliau hunanladdol, nac yn achosi i’r person weithredu arnynt. Mae’n gallu ei helpu i deimlo’n llai unig ac ofnus
Byddwch yn llawn gobaith. Mae pobl yn gallu gwella ac maen nhw yn gwella. Anogwch bobl i geisio cymorth
Cyfeiriadau:
Beaton, S. (2013). psychology.org.au. (n.d.). Suicide and language: Why we shouldn’t use the “C” word | APS. [online] Available at: https://psychology.org.au/publications/inpsych/2013/february/beaton [Accessed 2 Mar. 2022].
Everymind. (n.d.). Language and suicide. [online] Available at: https://everymind.org.au/suicide-prevention/understanding-suicide/role-of-language-and-stigma [Accessed 3 Mar. 2022].
Freedenthal, S. (2017). Language Matters: Committed Suicide vs. Completed Suicide vs. Died by Suicide. [online] Speaking of Suicide. Available at: https://www.speakingofsuicide.com/2017/09/21/suicide-language/ [Accessed 10 Dec. 2019].
Words matter. (n.d.). [online] Available at: https://www.camh.ca/-/media/files/words-matter-suicide-language-guide.pdf.