Mythau am Hunan-niweidio

Mae nifer o gamsyniadau a rhagfarnau am ymddygiad hunan-niweidio, hyd yn oed ymysg gweithwyr proffesiynol. Wrth reoli hunan-niweidio, mae’n gallu helpu i archwilio unrhyw syniadau neu bryderon rhagdybiedig sydd gennych chi. Mae rhai mythau cyffredin yn cael eu trafod yma.

Myth 1: ‘Chwilio am sylw’ mae pobl ifanc sy’n hunan-niweidio

Mae hunan-niweidio yn ymddygiad preifat iawn yn aml ac mae rhai pobl ifanc yn gwneud ymdrech enfawr i’w guddio. Efallai fod rhai pobl ifanc yn teimlo cywilydd, ansicrwydd neu ofid dwys. Os bydd person ifanc yn dod atoch chi ac yn siarad am hunan-niweidio, bosib bod hynny wedi cymryd cryn ddewrder a’u bod yn ymddiried yn gryf ynoch chi. Mae hyn yn dal yn wir os ydyn nhw’n dod atoch chi’n flin neu ei bod yn ymddangos eu bod yn hunan-niweidio i sicrhau canlyniad penodol, e.e. datrys perthynas sy’n chwalu.

Mae rhai pobl ifanc yn datgelu hunan-niwed fel ffordd o geisio cymorth oherwydd eu bod yn cael trafferth mynegi eu teimladau ar lafar o bosib. Nid ymddygiad ‘chwilio am sylw’ yw hyn, ond ffordd o gyfathrebu bod angen help arnynt. Digon posib bod angen sylw ar y person ifanc, ond y sylw cywir yn y ffordd gywir, a allai yn ei dro leihau’r cymhelliant i hunan-niweidio. Mae eich ymateb mor bwysig o ran gosod y dôn ar gyfer y dyfodol – ymyrryd yn gynnar yw’r hanfod yma.

Myth 2: Mae pawb sy’n hunan-niweidio yn ceisio lladd eu hunain

Mae’n bosib bod rhai ymddygiadau hunan-niweidio yn gysylltiedig â meddyliau a chynlluniau hunanladdol. Ond i’r rhan fwyaf o bobl, dull ymdopi yw hunan-niweidio. Yn hytrach na cheisio lladd eu hunain, efallai fod pobl ifanc yn defnyddio hunan-niweidio i reoli eu gofid a dyfalbarhau.
Mae perthynas rhwng hunan-niweidio a hunanladdiad ond er bod hunan-niweidio yn gyffredin ymysg pobl ifanc, mae hunanladdiad yn brin. Efallai eich bod wedi clywed mai hunanladdiad yw ‘prif achos marwolaeth’ ymysg pobl ifanc. Y rheswm am hynny yw prin iawn y mae pobl ifanc yn marw o achosion eraill, yn wahanol i grwpiau oedran hŷn.

Mae’n ddefnyddiol iawn ceisio deall y rhesymau a’r amgylchiadau pam mae person ifanc yn hunan-niweidio, gan dderbyn hefyd y gallai’r cymelliannau a’r ffactorau hyn newid. Bydd hyn yn eich helpu i benderfynu ar y camau priodol i’w cymryd.

Myth 3: Mae hunan-niweidio yn rhywbeth sy’n digwydd mewn grwpiau, is-ddiwylliannau, rhywiau neu grwpiau ethnig penodol

Er bod hunan-niweidio yn fwy tebygol o ddigwydd mewn rhai grwpiau o bobl ifanc, nid yw’n unigryw i’r un ohonynt. Mae hunan-niweidio yn gallu digwydd ymysg pobl o unrhyw oedran, gallu, rhyw, diwylliant ac ethnigrwydd.

Myth 4: Torri yw ystyr hunan-niweidio

Mae llawer o bobl yn defnyddio torri fel ffordd o hunan-niweidio a dyma’r ffurf fwyaf gweladwy fwy na thebyg. Mae’n bosib bod toriadau, llosgiadau neu gleisiau heb esboniad yn arwyddion o hunan-niweidio mewn person ifanc. Ond mae ffyrdd eraill.

Myth 5: Bydd pobl sy’n hunan-niweidio yn ‘dod ohoni gydag amser’

Mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc sy’n hunan-niweidio yn rhoi’r gorau iddi wrth dyfu’n hŷn, ond mae rhai pobl yn defnyddio hunan-niweidio fel dull ymdopi yn nes ymlaen mewn bywyd hefyd. Mae’n bosib bydd rhai’n rhoi’r gorau iddi am gyfnod ac yn ailddechrau eto. Mae hunan-niweidio yn mynd yn arferiad i rai pobl ac maen nhw’n cael trafferth ei osgoi. Beth bynnag yw’r achos, dydy dweud wrth bobl sy’n hunan-niweidio mai’r oll sydd angen iddynt ei wneud yw ‘rhoi’r gorau iddi’ byth yn ddefnyddiol – gall ddinistrio eich cyfle i ymgysylltu â nhw ac efallai bydd hynny’n eu hatal rhag ceisio cymorth gan rywun arall maen nhw’n ymddiried ynddo. Mae’n bwysig iawn gwybod gallwch chi gael effaith enfawr – mae cael cymorth priodol yn gynnar yn gallu newid llwybr bywyd pobl ifanc.

Ffynhonnell:
Ymateb i faterion hunan-niweidio a theimladau hunanladdol ymhlith pobl ifanc | LLYW.CYMRU