Telerau Defnyddio

Defnydd a Ganiateir 

Mae gan ymwelwyr â Hwb Hyfforddiant SSHP (y wefan hon) ganiatâd i ddefnyddio deunyddiau cyhoeddedig (cynnwys) yn amodol ar y telerau hyn. Drwy ddefnyddio’r wefan rydych chi’n cytuno i fod yn rhwym wrth y telerau defnyddio. 

Er y gellir defnyddio a lawrlwytho cynnwys at ddibenion personol ac anfasnachol (e.e. ymchwil preifat, astudiaeth neu ddefnydd mewnol); ni chaiff ymwelwyr ailgynhyrchu nac ailgyhoeddi unrhyw ddeunydd o’r wefan hon heb ganiatâd y wefan / perchennog yr hawlfraint. 

Ni a/neu drydydd partïon sy’n berchen ar y delweddau, y logos a’r graffeg sy’n cael eu defnyddio ar y wefan hon. Ni ddylid defnyddio’r rhain heb gael caniatâd perchennog yr hawlfraint. 

Rydych chi’n cydnabod bod yr holl hawliau eiddo deallusol sy’n gysylltiedig â’r wefan hon yn berchen i Iechyd Cyhoeddus Cymru fel y corff lletya ar gyfer Cydweithrediad Iechyd GIG Cymru a, lle bo’n berthnasol, partneriaid trydydd parti. 

Gwybodaeth Bersonol 

Pan fyddwch yn cyflwyno data adnabyddadwy ar y wefan hon o’ch gwirfodd (sy’n cynnwys cyflwyno ffurflen gyswllt, deunyddiau neu gyrsiau hyfforddiant, holiaduron ac ati), mae’r wybodaeth sy’n cael ei chyflwyno yn cael ei defnyddio dim ond i ymateb i’ch ymholiadau ac at y diben a fwriedir. Nid ydyn ni’n rhannu gwybodaeth am ddefnyddwyr gwe â thrydydd partïon. 

Diogelu rhag Feirysau 

Rydyn ni’n gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd am feirysau. Serch hynny, argymhellir eich bod yn rhedeg rhaglen gwrthfeirysau ar yr holl ddeunyddiau sy’n cael eu llwytho i lawr o’r rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled, amhariad neu ddifrod i’ch data neu eich system gyfrifiadurol a allai ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd a ddaw o’r wefan hon. 

Ymwadiad

Cymerir gofal i sicrhau bod cynnwys y wefan yn gywir. Er hynny, darperir cynnwys ar gyfer gwybodaeth gyffredinol yn unig a chi sy’n cario’r risg wrth ei ddefnyddio. Ni fyddwn yn atebol am ddifrod neu golled o ganlyniad i unrhyw weithred neu hepgoriad yn sgil defnyddio’r wybodaeth ar y wefan hon. 

Gwefannau Allanol 

Nid yw Cydweithrediad Iechyd GIG Cymru’n gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd unrhyw wefannau y mae dolen iddynt. Nid ydyn ni’n derbyn unrhyw atebolrwydd am gynnwys gwefannau o’r fath nac am ganlyniadau dilyn unrhyw gyngor arnynt. Ni ddylid ystyried bod rhestru’n gymeradwyaeth o unrhyw fath. 

Ni allwn sicrhau y bydd y dolenni hyn yn gweithio bob amser ac nid ydyn ni’n rheoli argaeledd tudalennau â dolenni iddynt, nac yn gallu rheoli newid i gyfeiriadau gwefannau. 

Mae Cydweithrediad Iechyd GIG Cymru’n cadw’r hawl i wrthod neu dynnu dolenni i unrhyw wefan. 

Nodwedd Google Translate  

Mae gwefannau GIG Cymru sydd wedi galluogi’r nodwedd Google Translate yn cynnig cyfieithiadau gan Google™ Translate, gwasanaeth trydydd parti nad oes gan GIG Cymru unrhyw reolaeth drosto. Nid yw tudalennau wedi’u cyfieithu yn rhan o’r wefan sy’n cael ei lletya ac nid oes ganddynt unrhyw gysylltiad â pharth GIG Cymru. 

Mae’r gwasanaeth hwn yn gyfieithiad cyfrifiadurol wedi’i awtomeiddio ac felly ni fydd yn gyfieithiad perffaith, a gall wneud camgymeriadau na fyddai person yn eu gwneud. 

Dylid defnyddio’r cyfieithiad fel arweiniad bras yn unig. Nid yw GIG Cymru’n derbyn unrhyw atebolrwydd am gywirdeb y cyfieithiadau hyn nac am unrhyw golled o ganlyniad iddynt.  

Diwygiadau yn y Dyfodol 

Bydd newidiadau i’r telerau hyn ar gael ar y wefan hon.