A fydd fy mhlant mewn perygl o gyflawni hunanladdiad eu hunain?

A fydd fy mhlant mewn perygl o gyflawni hunanladdiad eu hunain?

Efallai y byddwch yn poeni y bydd eich plant yn wynebu’r risg o ddynwared ymddygiad hunanladdol. Ceisiwch eu hannog i drafod eu teimladau ac ymchwilio i ffyrdd gwahanol o ddatrys problemau a delio â sefyllfaoedd anodd.

Dylech eu canmol a’u hannog yn aml er mwyn iddynt deimlo’n dda amdanynt eu hunain. Os ydych yn poeni am eich plentyn, mae’n bwysig eich bod yn trafod y pryderon hyn gyda rhywun sy’n gymwys i’ch cynghori.

Gallai hyn fod yn rhywun o’ch meddygfa neu’n gwnselydd o un o’r sefydliadau profedigaeth sy’n gweithio gyda phlant.